Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

HSC(4)-23-12 papur 5

Ymchwiliad i Ofal Preswyl i Bobl Hŷn – Nodyn o gyfarfod y Grŵp Cyfeirio ar 24 Mai 2012

 

Cefndir

 

1.   Sefydlodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol grŵp cyfeirio ar gyfer ei ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn yn ystod gwanwyn 2012. Mae'r grŵp yn cynnwys y rhai a fu'n cynorthwyo ffrindiau neu aelodau o'r teulu mewn lleoliadau gofal preswyl yn ddiweddar, sy'n gwneud hynny ar hyn o bryd, neu sy'n wynebu gwneud hynny yn y dyfodol. 

 

2.   Rôl y grŵp cyfeirio allanol yw rhoi barn i'r Pwyllgor ynghylch y prif faterion a fynegwyd yn ystod yr ymchwiliad. Mae hyn yn cynnwys eu barn ynghylch y graddau y mae'r wybodaeth a ddarperir yn y dystiolaeth yn adlewyrchu eu profiadau personol eu hunain, a'r graddau y maent yn cytuno â'r cyfeiriad polisi presennol ym maes gofal preswyl i bobl hŷn.

 

3.   Bydd y grŵp cyfeirio yn cyfarfod bob mis yn ystod y cyfnod o gasglu tystiolaeth lafar, gan ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd eisoes a chynnig mathau o gwestiynau y gellid eu gofyn mewn sesiynau tystiolaeth yn y dyfodol. Bydd y grŵp cyfeirio yn cytuno ar bob nodyn a lunnir o'i gyfarfodydd cyn eu cyhoeddi.

 

Crynodeb

 

4.   Cyfarfu'r grŵp ar 24 Mai 2012 i drafod y prif themâu a ddaeth i'r amlwg yn sesiynau tystiolaeth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 26 Ebrill a 2 Mai 2012. Yn ystod y ddau sesiwn hyn, ystyriwyd rôl darparwyr y trydydd sector a modelau amgen ar gyfer darparu. 

 

5.   Bu'r grŵp hefyd yn ystyried materion yn ymwneud â rheoleiddio ac arolygu gofal, a chwestiynau y gellid eu gofyn yn y sesiwn dystiolaeth gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) a Chyngor Gofal Cymru ar 30 Mai.

 

Y prif themâu

 

6.   Cytunodd y grŵp cyfeirio mai dyma'r prif themâu a ddaeth i'r amlwg yn y sesiynau tystiolaeth ffurfiol a gaiff eu crybwyll ym mharagraff 4:

 

-        Gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolynddylai fod wrth wraidd darparu gwasanaethau. Mae angen ystyried pobl mewn modd cyfannol, a dylai fod cymorth ar gyfer yr unigolyn cyfan, gan sicrhau bod pob cyflwr sydd ganddynt a chyflyrau posibl yn cael eu canfod a'u trin.

 

-        Dylai gwasanaethau ailalluogia gwasanaethau tebyg fod ar gael i bawb, ym mhob cam o'r broses gofal preswyl. Mae annog pobl i fod mor annibynnol â phosibl yn rhan allweddol o'r broses o adfer. Dylid gweithio i godi ymwybyddiaeth o bob gwasanaeth sydd ar gael.

-        Mae angen gweithio mewn partneriaeth yn well a rhannu arfer da ac arbenigedd. Dylai fod mwy o weithio hyblyg a llai o seilos yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Dylai fod cyfathrebu gwell rhwng sefydliadau, yn enwedig yng nghyswllt cadw cofnodion, er mwyn sicrhau dilyniant yn nhriniaeth y claf. 

 

-        Mae angen digon o gyllid ar gyfer gwasanaethau, ac isafswm taliadau ar gyfer gwasanaethau gofal, p'un a ydynt yn wasanaethau a ddarperir yn y cartref neu mewn cartrefi gofal preswyl.  Gall comisiynu ar sail cost yn hytrach nag ansawdd gael effaith andwyol, o bosibl, ar y gwasanaethau y mae pobl yn eu cael.

 

-        Mae angen gwybodaeth well, fwy hygyrch ynghylch y mathau o ofal sydd ar gael. Bydd hyn yn helpu i ateb cwestiynau fel beth sy'n nodweddu gofal o safon. Dylid diffinio ailalluogi yn glir, a fydd yn helpu i sicrhau cysondeb o ran yr hyn sy'n nodweddu ailalluogi, ynghyd â chyfarwyddyd yn hynny o beth, i'r rheini sy'n ei ddarparu.

 

-        Dylai hyfforddiant ar faterion fel dementia a chlefyd Parkinson ymwneud â mwy na chodi ymwybyddiaeth yn unig; dylai ymwneud hefyd â sut y dylid ymdrin â'r cyflyrau hyn, a dylai anelu at wella sgiliau staff yn gyffredinol, mewn wardiau ysbytai, meddygfeydd, a chartrefi gofal.

 

-        Dylid gweld mwy o werth mewn staff sy'n gweithio yn y sector gofal. Mae gan weithwyr gofal mewn cartrefi gofal a'r rheini sy'n darparu gofal yn y cartref nifer o gyfrifoldebau, yn ogystal â bod wedi'u cyfyngu arnynt yn aml gan bwysau ariannol a phwysau o ran eu hamser, a dylid cydnabod hyn mwy.

 

7.   Wrth drafod y prif themâu a'r dystiolaeth a glywyd, mynegodd y grŵp y pwyntiau a ganlyn:

 

-        Dylid cynnal trafodaethau am anghenion gofal pobl yn y dyfodol ar adeg briodol, gyda'r holl bobl berthnasol. Fel arfer, dylid gwneud hyn mor fuan ag y bo modd – ond bydd hyn yn amrywio yn ôl y sefyllfa a'r bobl dan sylw. Mae angen cymorth ac eiriolaeth i sicrhau bod hyn yn effeithiol.

 

-        Rhaid i'r broses asesu ar gyfer y rheini sy'n cael gofal neu'r rheini y canfyddir y bydd angen gofal arnynt, o bosibl, fod yn barhaus, ac ni ddylai fod yn rhywbeth a wneir unwaith yn unig. Gall pobl ymddangos yn glir eu meddwl mewn un asesiad, ond mae modd meithrin dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o les unigolyn os cynhelir asesiadau parhaus. Ar ben hynny, gall anghenion pobl fod yn fwy neu'n llai gan ddibynnu ar eu cyflyrau a'r driniaeth y maent yn ei chael, a dylid monitro hyn drwy'r broses asesu.

 

-        Teimlai'r grŵp y dylai mwy o wybodaeth am ailalluogi fod ar gael. Buont yn trafod nodweddion ailalluogi a pha mor anodd ydyw i'w diffinio. Roedd hwn yn faes yr oedd angen ei egluro, yn eu barn hwy, ac roedd angen hefyd am ddata sylfaenol am wasanaethau ailalluogi, er mwyn gallu symud ymlaen yn y maes hwn. Teimlai'r grŵp nad oedd y gwasanaethau a ddarperir, fel ailalluogi, wedi'u ffurfioli'n iawn ar hyn o bryd, a’u bod yn cael eu darparu mewn modd ad hoc. Teimlent y dylai fod mwy o ymwybyddiaeth o'r gwasanaethau hyn, a darpariaeth safonol i bawb.

 

-        Bu'r grŵp yn trafod y ffaith bod unigedd yn broblem i bobl yng nghefn gwlad ac mewn ardaloedd trefol. Teimlent ei bod yn werthfawr iawn bod y trydydd sector yn cymryd rhan drwy gyfrwng prosiectau fel cyfeillio. Teimlent hefyd fod nifer o heriau ynghlwm wrth ddarparu gofal yn y cartref yng nghefn gwlad, oherwydd yn aml nid oedd contractau'n darparu ar gyfer amseroedd teithio a chost. Gall hyn beri i'r contractau beidio â bod yn hyfyw neu'n atyniadol i gyflenwyr.

-        Mae angen mynd i'r afael â natur gwrth-risg gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd. Teimlai'r grŵp fod angen newid agweddau a bod angen canolbwyntio llai ar bethau a allai ddigwydd. Teimlent y byddai hyn o gymorth wrth alluogi pobl i fod yn fwy annibynnol, ac y gallai helpu i leihau costau yn y tymor hir.

 

-        Teimlai'r grŵp fod taliadau uniongyrchol i bobl hŷn yn rhy isel i alluogi pobl i brynu gwasanaethau wedi'u rheoleiddio, sy'n golygu eu bod yn anhyfyw ar hyn o bryd. Ymddengys nad yw'r system yn dymuno rhoi cymorth i bobl hŷn yn eu cartrefi.

 

-        Teimlai'r grŵp y byddai gwell rheoleiddio ar y system gofal yn y cartref yn gam cadarnhaol.

 

-        Yn aml, nid yw'r amser a gaiff ei neilltuo ar gyfer ymweliadau gofal â'r cartref, a'r cymorth ar gyfer yr ymweliadau hyn, yn ddigon ar gyfer y tasgau y mae gofyn iddynt ymgymryd â hwy. Mae hynny'n wir yn arbennig lle y gallai fod gan y claf ddementia, ac efallai y bydd yn cymryd amser i gael mynediad i'r tŷac i ennyn hyder y cleient. Mae'r taliadau yswiriant ac atebolrwydd y mae eu hangen er mwyn i staff gofal yn y cartref roi meddyginiaeth yn rhwystro'r mwyafrif o ddarparwyr rhag gallu cynnig y gwasanaeth hwn.

-        Mae cynllunio da, gan ystyried elfennau fel colli synhwyrau a dementia, yn hanfodol wrth ddatblygu lleoliadau gofal newydd. Dylai'r gwaith o ddatblygu tai newydd hefyd ystyried bod anghenion y boblogaeth yn newid, a dylid sicrhau y byddant yn addas i'r henoed yn y dyfodol. Teimlai'r grŵp, heb grantiau digonol ar gyfer addasu cartrefi pobl, fod rhywfaint o'r dewis o ran aros gartref yn cael ei ddileu.

 

-        Bu'r grŵp yn trafod y ffaith ei bod yn aml yn anodd siarad ag aelodau o'r teulu am eu hanghenion gofal, yn enwedig os nad oeddent am gydnabod eu cyflwr. Teimlai'r grŵp fod llawer o'r materion mewn perthynas â diffyg gwybodaeth a'r anawsterau o ran trafod ag aelodau hŷn o'r teulu yn ymwneud â'r cenedlaethau, a theimlai'r grŵp y byddent hwy a chenedlaethau'r dyfodol wedi'u paratoi'n well ar gyfer y dewisiadau a'r trafodaethau y byddai angen ymgymryd â hwy.

-        Teimlai'r grŵp na ddylid ystyried dementia a'r angen am ofal yn stryd unffordd tuag at ddirywiad, a'i bod yn hanfodol fod gan bobl ddewis ac annibyniaeth. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gan bobl bwrpas yn eu bywydau.

 

-        Roedd aelodau'r grŵp wedi cymryd yn ganiataol fod pob aelod o'r staff nyrsio mewn lleoliadau gofal preswyl wedi'u hyfforddi i ymdrin â dementia. Gwnaethant nodi nad oeddent wedi meddwl am yr angen i gadarnhau pa hyfforddiant yr oedd staff wedi'i gael wrth ddewis cartref.

 

-        Yn aml, nid yw'r math o iaith a gaiff ei defnyddio yng nghyd-destun trin cleifion sydd â dementia yn ddefnyddiol - er enghraifft, teimlai'r grŵp ei bod yn bosibl fod unigolyn y dywedir ei fod yn "ystyfnig" yn cael trafferth cyfathrebu, mewn gwirionedd. 

 

Cwestiynau ar gyfer sesiynau'r dyfodol

 

8.   Bu'r grŵp yn trafod meysydd sy'n destun pryder ynghylch yr ymchwiliad o ran arolygu a rheoleiddio. Gwnaethant awgrymu hefyd y dylid cyflwyno'r sylwadau a'r cwestiynau a ganlyn i AGGCC/AGIC a Chyngor Gofal Cymru:

 

-        Rhaid i'r broses arolygu gynnwys treulio digon o amser gyda phreswylwyr a'u teuluoedd.

·         Beth sy'n cael ei wneud i sicrhau bod profiadau preswylwyr o'r cartref preswyl yn cael mwy o sylw?

 

-        O brofiad y grŵp, ymddengys na chaiff adroddiadau arolygu gwael eu gorfodi, ac nad oes canlyniadau yn deillio ohonynt. Mae angen camau gweithredu clir ar gyfer gorfodi – ymddengys fod pethau tebyg yn codi flwyddyn ar ôl blwyddyn.

·         Beth sy'n cael ei wneud i gryfhau'r broses o orfodi canfyddiadau'r gyfundrefn arolygu?

·         A oes unrhyw broses ddilynol ynghylch sicrhau nad yw rheolwyr a staff cartrefi gofal yn edrych am waith mewn cartrefi gofal eraill ar ôl iddynt gael eu diswyddo?

 

-        Mae nifer o weithiwyr proffesiynol yn gweithio mewn cartrefi gyda phreswylwyr, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol ac aseswyr gofal cymhleth (os caiff y claf ei gyllido gan y gwasanaeth iechyd).

·         A yw AGGCC yn gweithio gyda'r bobl hyn cyn arolygu i ganfod unrhyw feysydd sy'n destun pryder? A oes proses o gysylltu â hwy'n barhaus ynghylch y prif bryderon sy'n dod i'r amlwg mewn cartrefi?

 

-        Teimlai'r grŵp cyfeirio fod cartrefi gofal yn gwybod pryd yr oedd yn debygol y byddai arolygiadau'n cael eu cynnal, gan eu bod yn tueddu i ddilyn yr un patrwm ar draws rhanbarthau. Teimlent fod angen mwy o hapwiriadau ac arolygwyr lleyg. 

·         Beth sy'n cael ei wneud i ddod ag arolygwyr lleyg yn ôl i mewn i'r system? [Barn y grŵp yw bod angen defnyddio mwy o weithdrefnau ac i fwy o bobl gymryd rhan, gan gynnwys arolygwyr lleyg.]

·         Mae AGIC yn cynnal arolygiadau heb rybudd mewn ysbytai o safbwynt urddas - a yw'r rhain yn cael eu cyflwyno mewn cartrefi gofal hefyd?

 

-        Dylid rheoleiddio yn achos staff islaw rheolwyr - ni ddylai cost cofrestru cael ei chrybwyll fel rhwystr.

 

-        Mynegodd y grŵp bryderon ynghylch pam y bu cynnydd yn nifer y cartrefi sy'n hunanasesu - a hwythau'n berthnasau i breswylwyr, roeddent yn pryderu'n fawr am hyn.

 

-        Defnyddiodd y grŵp yr adroddiadau arolygu ysgrifenedig fel ffynhonnell wybodaeth ar gyfer penderfynu i ble y dylai aelodau o'r teulu fynd - maent o'r farn y gellid gwella'r adroddiadau hyn, ac y gallent gynnwys gwybodaeth fwy hygyrch, defnyddiol, ac sy'n rhoi darlun cliriach o realiti bywyd preswylydd mewn lleoliad preswyl penodol. At hynny, roedd y grŵp o'r farn

 

·         bod angen mwy o ystyriaeth o gynulleidfa bosibl adroddiadau, ac y dylai'r adroddiadau egluro materion mewn termau cyffredin;

·         y dylai'r arolygiaeth ystyried cynnwys pethau fel ffeithiau a ffigurau diddorol am y cartrefi;

·         y dylai'r adroddiadau fod ar gael yn eang, ac nid ar y we yn unig;

·         bod gormod o sylw yn cael ei roi i weithdrefn a gwaith papur yn yr adroddiadau, ac y dylid gwneud mwy o waith i glywed barn y bobl sy'n ymwneud â'r cartref gofal drwy gysylltu'n uniongyrchol â hwy; nid yw holiaduron yn ddigon; 

·         y dylid ystyried cyfarfodydd preswylwyr yn ffynonellau gwybodaeth defnyddiol ar gyfer arolygwyr.

 

-        Gofynnodd y grŵp beth yr oedd AGGCC yn ei wneud i sicrhau bod data yn cael ei ddiogelu mewn cartrefi. Roedd enghreifftiau a grybwyllwyd gan y grŵp cyfeirio yn cynnwys lluniau teuluol yn cael eu defnyddio at ddibenion hysbysebu cartrefi, er na roddwyd caniatâd ar gyfer gwneud hynny. Mae'n bwysig bod preifatrwydd preswylwyr yn cael ei gynnal.

 

-        O ystyried nifer yr achosion o rai cyflyrau, fel colli synhwyrau / dementia / salwch meddwl, roedd y grŵp am gael gwybod pa lefel o hyfforddiant y mae arolygwyr wedi'i chael yn y meysydd hyn, er mwyn gallu nodi a ydynt yn cael sylw digonol yn y cartrefi.

 

-        Roedd y grŵp am gael gwybod a oes unrhyw fonitro'n cael ei wneud o nifer a mathau'r achosion o syrthio mewn lleoliadau preswyl, ac, os felly, i ba raddau yr eir i'r afael â hyn.

 

-        Roedd y grŵp am gael gwybod ym mha fodd y mae morâl staff yn cael ei gynnwys mewn adroddiadau arolygu. Mae hyn yn cynnwys i ba raddau:

·         y gwneir addasiadau ar gyfer holi'r rheini nad yw'r Gymraeg neu'r Saesneg yn famiaith iddynt.

·         yr ystyrir pethau fel y llety byw a ddarperir i staff; roedd y grŵp o'r farn y gall y llety hwn fod o ansawdd isel iawn, ac y gallai effeithio ar allu gweithwyr gofal i gyflawni eu swyddi. 

 

-        Roedd y grŵp o'r farn y dylid monitro'r hyfforddiant a ddarperir i staff, ac y dylid cynyddu nifer yr elfennau gorfodol o hyfforddiant, e.e. hyfforddiant gorfodol ar ddementia.

 

9.   Cytunodd y grŵp i ystyried cwestiynau posibl ar gyfer sesiwn y Pwyllgor gyda'r darparwyr gofal, a fydd yn cael ei gynnal ar 14 Mehefin 2012.

 

10.        Cytunodd y grŵp i ystyried materion yn ymwneud â chyllid a disgrifiad o swydd gweithiwr gofal yn y cyfarfod nesaf.